Aberffraw
Dewch dros y twyn i'r Berffro Cewch groeso mawr yn siwr, Y pentref bach ar lan y môr, A miwsig yn y dŵr. Bu cerdded ger yr afon A gwrando ar y lli, Yn dod a llawer atgof Am amser gynt, i mi. Ces chwarae ar y tywyn Ac ymdrochi lawer trô, Ger Eglwys Cwyfan hefyd Es lawer gwaith am drô. Y tonnau gwyllt yn dawnsio, A phrysur dod i'r lan Gan guddio creigiau gleision 0 gwmpas troed y Llan. Mae traeth o dywod melyn Fel llinyn aur gerllaw, A chregin brith ddisgleiria Fel enfys yn y glaw. Llywelyn Twysog Cymru, Fu'n trigo ar ein tîr, Ei balas yn y Berffro, Mae yr hanes i ni'n wir. Y pentref bach sydd yma, Sydd yn nefoedd, coeliwch fi, Dewch yma yn eich miloedd I'w rannu gyda mi. Julia Prytherch (2007)
BERFFRO
Llawer sôn sydd am y Berffro, Unwaith oedd yn enwog lê, Hwn bu trigfa, gynt Llewelyn, T’wysog Cymru, onid e? Sgwrs a dadleu gyda'r henoed, Bu fy hoff ddifyrwch i, A chael hanes yr hen bentref, Yn yr amser hyfryd fu. Sôn wnaiffrhain am stryd yr Efail Pan oedd yno swn y gôf, Yntau'n curo ar yr engan, Tra'n cael sgwrs a ffrindia’r frô. Weithiau'n brysur yn pedoli Pedair troed y gaseg wen Ond, mae hithau hefyd bellach, Wedi mynd i biygu'ei phen' Sôn wnant hefyd am y gweithdy Am y saer, a'i gwmni lû, Swn ei forthwyl ar yr hoelion Pêr i'r glust oedd sŵn ei li. Ond mae'r stryd yn awr yn ddistaw, Drws y gôf sydd wedi cau, Mae yr engan wedi'ei chadw A'r hen brennau ddigon brau. Nid oes gweithdy mwy ar agor, Wedi mynd mae'r fainc a'r stôl, Fel y ffrindia fu'n cyfarfod, Ni ddaw rheini chwaith yn ôl. Do - bu llawer sgwrs a dadleu Dyma ydoedd senedd Brô, Ond mae'r cyfan erbyn heddiw, Fel rhyw feddrod, dan y grô. Julia Prytherch PONT Y PENTREFR'wyf yn hen a wedi blino. Mae fy nghefn am gwar yn gam, Miloedd ddaefh ar bererindod I fy nghroesi fesul cam. Rhed y dwr dan sisal beunydd Dros y cerrig gloyw glan, Gwelais ambell wylan wynglaer Yn ymolchi ar y lan. Ar ei tro daw dau I garu, Yn fy nghysgod gyda'r nos, Pan fydd swn y gwynt yn uchel A glaw yn curo Aber dlos. Ni fydd diwedd ar li’r afon Ni fydd diwedd ar y gwynt, Ond daw amser-fel I bopeth Panfydd terfyn ar fy hynt. Julia Prytherch.
YMDDEOLIAD ALFRED PRICE Y Pobydd Am bentref bach Berffro Mae llawer o sôn, Cans yma mae pobydd Y gorau ym Môn. Daw cannoedd o bobl 0 lawer i sir, I'r becws bach yma Hen ffasiwn mae'n wir. Bu'n fangre cyfarfod I lawer hen ffrind, Rhai'n dal i ddod yma A'r lleill wedi mynd. Ond heddiw mae rhybudd 'No bread any more', Ac Alf yn torheulo Hyd draethau y mor. Hir oes iti bobydd A llawen dy fyd, Amdanat bydd Berffro Yn siarad o hyd.
CERDDI MATHEW BACH Casglwyd gan T D Hughes PENTREF ABERFFRAW
Yn wylaidd iawn gofynnaf A wnewch chwi ganiatau I mi cael ceisio canu Yn awr rhyw air neu ddau; Mi aflonydda’r meddwl, Nis gallaf roddi taw, Mae ‘nghalon wedi’i chlymu Wrth bentref Aberffraw. Er mod i’n enedigol O bentre bach Rhydwyn Mae nghartre yng Nghaergeiliog Ers llawer dydd cyn hyn; ‘Dyw hynnu ddim gwahaniaeth, Beth sydd,neu eto ddaw, Mae nghalon wedi’i chlymu Wrth bentref Aberffraw. Mae yno bobol barchus Yn trigo yn y lle, A llawer o ddieithriad Na wn i o ba le. Mae rhai yn dod am iechyd O drefi Lloegr draw, Lle iacha ar y ddaear Yw pentref Aberffraw. Mae yno siopau siapus, A’u perchenogion sydd Yn gwerthu gwerth pob ffyrling Yn gywir iawn bob dydd; Mae yno dai tafarnau, Lle clyd i ‘mochel glaw, A chwrw gora’r ddaear Ym mhentref Aberffraw. Mae yno ferched ifanc Rhinweddol iawn yn byw- Rhai meinion eu canolau A gwynion iawn eu lliw; Os byddwch am briodi, Wel, ceisiwch wir gael llaw Rhyw eneth wedi’i magu Ym mhentref Aberffraw. Mae defaid bach yn pori Ymysg y moresg mân, A nofio yn yr afon Mae adar gwynion glân; A phont sydd wedi’i chodi I groesi i’r ochr draw, Rhag ofn i’r llanw foddi Trigolion Aberffraw. Mae yno rai capeli Godidog yn y lle, Ceir ambell i bregethwr I’r cyrddau mawr,o’r De. Daw llawer i hen flaenor, Er gwaetha’r gwynt a glaw, I gadw guyl a gweddi Ym mhentref Aberffraw. Os bydd rhyw lanc o’r ardal Yn meddwl gwneud y goes, Mae relwe’n rhydd i Lundain O stesion bach Tw Croes; A hefyd mae Bodorgan Ychydig bellach draw, Cewch gar am ‘chydig arian O bentref Aberffraw.
“SELAR” ABERFFRAW
Ffarwel i Selar Berffro A’r gwelu trwmbal troll, Lle bém i lawer noson Yn ddigon gwag fy mol; A chodi yn y bore Â’m brest yn ddigon caeth- Gan agor drws y gegin I oglau’r bara llaeth.
ATGOF O’R DYDDIAU GYNT Atgofion ddaw o’r dyddiau gynt, Y dyddiau pell yn ôl, Pan oeddwn ieuanc ar fy hynt Yn crwydro bryn a dôl; Heb weled unrhyw ffordd yn faith Na llwybr di-ben-draw Wrth fynd nos Sadwrn ar fy nhaith Am dro i Aberffraw. Ond erbyn hyn yr wyf mewn oed, A’m gallu ddim er gwell- Nid wyf mor gyflym ar fy nhroed, Aeth Aberffraw ymhell. Lle bém yng gnhwmni bechgyn llon A marched glana’r fro; Rhyw hiraeth ddaw y funud hon Wrth gofio llawer tro. Os death yr atgo’ ar ei hynt, Ni ddaw y cwmni mwyn I rodio heno megis cynt Y llwybra dros y twyn; Yr amser a’u gwahanodd hwy Ar hyd a lled y byd, Ni does un gallu dynol mwy A all eu galw ynghyd. Mae’r bont yn aros megis cynt Mor gadarn ag erioed, Tra’r llanc fu’n croesi ar ei hynt Yn drymach ar ei droed; Ond dal i redeg y mae’r dur O dan ei bwa hi,- Gan lithro’n ddistaw a di-stur I lawr i’r môr yn lli. Aeth rhai o’r llanciau cu i ffwrdd Ar alwad Brenin Braw, Heb obaith mwyach gael eu cwrdd Ar lwybrau Aberffraw; Ymostwng i’r un alwad brudd Wnaeth rhai o’r merched llon, A’u henwau hoff i’w gweled sydd Mewn mynwent uwch y Fron.
|